Yn eich cartref

Sut gall Teleofal weithio yn eich cartref chi

Pan ddewch yn gwsmer Teleofal Caerdydd, rhoddir larwm crogdlws ag uned ymateb i chi er mwyn i chi allu cysylltu â ni os cewch unrhyw broblem. Mae ein gwasanaeth Larwm Teleofal yn helpu llawer o gyplau, a’r bobl hynny sy’n byw ar eu pen eu hunain. Mae symlrwydd wrth galon ein gwasanaeth larwm Teleofal 24-7, gan alluogi cwsmeriaid ledled Caerdydd i fod yn hyderus ac yn ddiogel yn eu cartrefi.

Mae Teleofal Caerdydd yn fwy na larwm botwm y gallwch ei bwyso gan fod modd rhoi synwyryddion ychwanegol ym mhob rhan o’r cartref sy’n golygu y bydd y gwasanaeth bob amser yn bodloni eich anghenion. Siaradwch â’r tîm am y pecynnau a synwyryddion ychwanegol sydd ar gael.

Gwnewch Gais Nawr
O
£3.60* yr wythnos yn unig

Mynnwch fwy o wybodaeth am wasanaethau Teleofal Caerdydd

Skip to content

© Telecare Cardiff - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd