Yn eich helpu i barhau i fyw’n annibynnol yn eich cartref

Mae gwasanaeth Pryd ar Glud Cyngor Caerdydd a Theleofal Caerdydd yn helpu llawer o bobl ledled y ddinas i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi. Mae’r gwasanaethau’n helpu preswylwyr sy’n agored i niwed, pobl anabl a phreswylwyr oedrannus, ac mae ar gael 365 diwrnod y flwyddyn.

Trefnwch alwad yn ôl
Sut gall Teleofal weithio yn eich cartref chi

Canolfan Gyswllt 24/7

Ar hyn o bryd, mae ein gwasanaeth Pryd ar Glud yn darparu dros 1,600 o brydau bwyd yr wythnos. Rydym yn darparu prydau poeth, maethlon sy’n diwallu ar gyfer pob math o ofynion dietegol ac anghenion diwylliannol. Mae ein gwasanaeth fforddiadwy ar gael i holl drigolion Caerdydd ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf.

Mae Teleofal Caerdydd yn gyswllt ffôn 24 awr i’n gwasanaeth larwm cymunedol ac ymateb sy’n eich galluogi i gadw’n ddiogel ac i barhau i fod yn annibynnol yn eich cartref eich hun. Gan wasanaethu dros 4,500 o gwsmeriaid ar draws y ddinas, mae’r gwasanaeth hanfodol hwn yn achubiaeth i gynifer o bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain yn ogystal â chyplau a theuluoedd.

Cynhyrchion Teleofal

Barn ein cleientiaid

Rwy’n hapus iawn â’r gwasanaeth. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd. Dwi ddim wedi cael rheswm i’ch galw mas. Peth da yw fy mod yn dweud hynny ond mae gwybod eich bod chi yno’n tawelu fy meddwl i. Diolch yn fawr.-
Oherwydd fy nghyflyrau iechyd, mae Teleofal yn fy sicrhau nad yw help a chymorth yn bell os byddaf ei angen. Mae hefyd yn fy helpu i barhau i fod yn annibynnol yn fy nghartref. Rwy’n teimlo bod Teleofal yn wasanaeth pwysig iawn i mi ac i bobl eraill. Daliwch ati gyda’r gwaith da.-
Mae gwybod y byddai rhywun ar gael i fy helpu petawn i’n cael damwain yn gysur mawr. Rydych chi i gyd yn bobl hyfryd, diolch o galon – sefydliad gwych.-

Ai hwn yw’r gwasanaeth gorau i chi?

Drwy bwyso’r botwm ar eich crogdlws neu uned ymateb byddwch yn cysylltu’n uniongyrchol â’n tîm cyfeillgar a fydd yn siarad â chi drwy’r seinydd ar yr uned. Bydd y tîm yn mynd ati ar unwaith i’ch helpu, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Gallai hyn gynnwys cysylltu ag aelod o’r teulu, meddyg, gofalwr, neu’r gwasanaethau brys.

Mae Teleofal Caerdydd yn fwy na larwm botwm y gallwch ei bwyso gan fod modd rhoi synwyryddion ychwanegol ym mhob rhan o’r cartref sy’n golygu y bydd y gwasanaeth bob amser yn bodloni eich anghenion.

Bydd cost yr offer a’r monitro dilynol yn wahanol, gan ystyried y ffactorau canlynol;

·       Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-dal sy’n seiliedig ar brawf modd

·        Os oes gennych god hyrwyddo a ddyfynnwyd

·        Os ydych wedi gofyn i Wasanaethau Cymdeithasol ariannu cost yr offer

·        Lefel y gwasanaeth a ofynnwyd amdano, £3.60 yr wythnos ar gyfer Contract yn Unig a £6.43 yr wythnos ar gyfer Ymateb Symudol

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo’n llawn i ddarparu gwasanaethau rhagorol i ddinasyddion Caerdydd. Mae Teleofal Caerdydd yn un o’r gwasanaethau gwerth gorau o’i fath yng Nghymru. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dewis y pecyn sydd fwyaf addas i chi a rhoi galwad i ni.

Mae Pryd ar Glud ar gael i bob trigolyn yng Nghaerdydd a rhannau dwyreiniol Bro Morgannwg gan gynnwys Dinas Powys, Sili, Llandochau, Penarth a Gwenfô ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf.

Gall cwsmeriaid gael eu hatgyfeirio gan deulu, ffrindiau, cymdogion, neu weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a rhaid iddynt fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Yn cael trafferth paratoi pryd
  • Ddim yn gallu siopa am fwyd
  • Mae ganddynt anabledd
  • Diffyg prydau maethlon
  • Wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn ddiweddar

Cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau

    Skip to content

    © Telecare Cardiff - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

    Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd